Pwll nofio
Mae'r prif bwll yn 25m x 12.5m hefo 6 lon, a dyfnder o 3 metr. Defnyddir y pwll ar gyfer nofio cyhoeddus, dosbarthiadau ffitrwydd yn y dwr a gwersi nofio i wahanol lefelau a gallu. Bydd y sesiynau yn cynnwys Nofio i Ferched, Sub Aqua, mam a phram, Clwb nofio, Polo dwr a phartïon pen-blwydd yn y dwr.
Pwll dysgwyr
Mae'r pwll dysgwyr yn 12.5m x 9m, ar ddyfnder o 0.7 metr. Defnyddir y pwll yn bennaf ar gyfer gwersi nofio i rieni a babanod hyd nofio stage 3.
Neuadd chwaraeon
Mae llain badminton pum cwrt ar gael i chwarae pêl rwyd, pêl droed, pêl fasged a chriced. Defnyddir y neuadd chwaraeon gan y clybiau Jiwdo a Thenis Bwrdd a gellir ei ddefnyddio ar y penwythnos a'i hurio ar gyfer partïon pen-blwydd pêl droed. Defnyddiwyd y neuadd chwaraeon hefyd ar gyfer gweithgareddau arbennig megis rhaglenni teledu, twrnamaint mawr a gweithgareddau chwaraeon plant.
Ystafelloedd ffitrwydd
Mae'r ystafelloedd ffitrwydd / Club Pulse Fitness Suite yn ystafelloedd ffitrwydd hawdd eu defnyddio a modern hefo amrediad da o offer cardiovascular ac offer gwella cryfder. Mae hyfforddwyr cyfeillgar ar gael yma i roi cyngor a chymorth i'r holl aelodau. Cliciwch ar y linc ystafelloedd ffitrwydd ar brif dudalen i gael mwy o wybodaeth.
Stiwdio dawns
Mae gan y Canolfannau Hamdden ddwy stiwdio un fawr ac un arall lai. Yn y stiwdio ddawns fawr mae gwydrau llawn a defnyddir yr ystafell hon ar gyfer dosbarthiadau ffitrwydd ardderchog. Defnyddir y stiwdios hefyd ar gyfer dosbarthiadau dawns, clybiau, tenis bwrdd ac i gynnal partïon pen-blwydd.
Campfa
Campfa aml bwrpas ar gyfer dosbarthiadau ffitrwydd a gweithgareddau clwb megis Trampolinio, Tae Kwon Do, Campfa a Karate. Defnyddir yr ardal hefyd ar gyfer partïon plant sy'n cynnwys chwaraeon meddal a chastell chwaraeon neu deganau chwythu i fyny i blant hyn. Mae gan yr ystafell cwrt badminton sengl ar gael i'w archebu ymlaen llaw.
Llain pob tywydd
Gan gynnwys llain Hoci a llain pêl droed 4 x 5/6-bob-ochr.
Ystafell Gyfarfod
Mae gan y Canolfan Hamdden ddwy ystafell sydd ar gael i gyfarfodydd yn dibynnu ar eich anghenion. Mae'r canlynol ar gael os gofynnwch; te a choffi, bwffe, defnyddio gliniadur a thaflunydd, taflunydd uwch eich pen, siartiau fflip a theledu. I gael mwy o wybodaeth am archebu ystafelloedd cyfarfod a chyfleusterau ychwanegol ffoniwch Reolwr y Canolfan Hamdden.
Cyfleusterau newid i bobl anabl
Mae cyfleusterau newid a chael cawod ar gael ar y llawr gwaelod ac ar y llawr cyntaf.
Cyfleusterau newid rhieni a babi
Mae cyfleusterau newid ar gael wrth y Dderbynfa a'r ystafelloedd newid i'r pwll nofio.
Parcio am ddim
Goleuo ardderchog a chamerâu CCTV llawn.
Parcio i'r anabl
Mae digon o lefydd parcio ar gael.
I gael mwy o wybodaeth am gyfleusterau'r Ganolfan Hamdden ffoniwch y Dderbynfa ar 01745 352900. |