Heddiw, roedd y Gweinidog Chwaraeon, Alun Pugh AC, wrth law yn y Rhyl i ddangos sut mae rhaglen ddiweddaraf Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n ceisio cael disgyblion uwchradd yng Nghymru i fod yn fwy egnïol yn cael llwyddiant ysgubol.
Bu disgyblion yn Ysgol Uwchradd Y Rhyl ar wal ddringo, yn dawnsio hip hop, yn meistroli driliau beicio mynydd ac yn dangos eu sgiliau pêl droed wrth iddynt fwynhau’r amrywiaeth o weithgareddau a gynigir fel rhan o’r cynllun 5x60.
Fis Hydref 2006, camodd sêr Cymraeg Big Brother 7, Glyn Wise ac Imogen Thomas, yn ôl ar iard yr ysgol i lansio’r rhaglen 5x60.
Bedwar mis yn ddiweddarach, mae’r cynllun eisoes yn dechrau trawsnewid caeau chwarae a neuaddau chwaraeon ysgolion uwchradd yng Nghymru i fod yn fwrlwm o weithgarwch o fore gwyn tan nos.
Yn gwneud yn well na’r holl ddisgwyliadau, mae cyfanswm o 39 o ysgolion uwchradd yng Nghymru’n rhan o’r cynllun yn awr. Erbyn 2009, mae disgwyl i swyddogion 5X60 fod yn gweithio gyda phob ysgol uwchradd yng Nghymru – pob un yn barod i gydlynu’r rhaglen allgyrsiol newydd sy’n benodol ar gyfer ysgolion uwchradd ac a gynhelir cyn yr ysgol yn y bore, yn ystod amser cinio, ar ôl ysgol ac ar benwythnosau.
Yn siarad yn y lansiad, amlinellodd Alun Pugh AC ei uchelgais ar gyfer iechyd y genedl yn y dyfodol:
"Drwy gyfrwng ei strategaeth chwaraeon a gweithgarwch corfforol, Dringo’n Uwch, mae Llywodraeth y Cynulliad yn awyddus i gynyddu’r cyfleoedd ar gyfer cymryd rhan i bawb. Erbyn 2025, rydym am weld pob person ifanc bron yng Nghymru’n cymryd rhan mewn 60 munud o weithgarwch corfforol bum gwaith yr wythnos. Mae cyflwyno 5x60 ar gyfer pobl ieuainc mewn ysgolion uwchradd yn gam ymlaen ar hyd y llwybr ac rwy’n hynod falch o weld y cynllun yn mynd o nerth i nerth.”
Mae amrywiaeth eang o weithgareddau’n rhan allweddol o’r cynllun 5x60 yn awr, gan gynnig i’r rhai nad ydynt yn arfer cymryd rhan mewn chwaraeon gyfle i dynnu’r llwch oddi ar eu hesgidiau ymarfer a bod yn egnïol.
Gyda dalen wag o bapur a llu o syniadau deinamig, mae’r disgyblion eu hunain yn penderfynu ar y math o weithgareddau yr hoffent gymryd rhan ynddynt, yn amrywio o ddawnsio stryd i Frisbee, ac o bêl droed i Dodgeball.
Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:
“Mae’n amlwg bod 5x60 eisoes yn gwneud cyfraniad arwyddocaol iawn at weithgarwch corfforol mewn ysgolion uwchradd. Mae cymryd rhan yn y rhaglen yn helpu ysgolion i gynnig amrywiaeth eang o weithgareddau, gan helpu i ragori ar y targedau a helpu i newid agwedd.”
Yn derbyn cefnogaeth o fuddsoddiad o £7.6 miliwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, mae 5x60 wedi’i gyflwyno i barhau â’r momentwm a sefydlwyd gan gynllun Campau’r Ddraig Cyngor Chwaraeon Cymru – y rhaglen uchel ei pharch a ariennir gan y loteri ac sy’n hwyluso cyflwyno chwaraeon a gweithgarwch corfforol allgyrsiol mewn ysgolion cynradd ar hyd a lled Cymru.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Lynette Evans yng Nghyngor Chwaraeon Cymru ar 029 2033 8273 neu lynette.evans@scw.co.uk
Lowri Jones yn Llywodraeth Cynulliad Cymru ar 029 2089 8557/ lowri.jones@wales.gsi.gov.uk |