|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Mae gan Sir Ddinbych ei Swyddog Datblygu Pêl-rwyd ei hun, ar gyfer digwyddiadau cenedlaethol neu wybodaeth ynghylch Cymdeithas Bêl-rwyd Cymru ewch i www.welshnetball.co.uk Rôl y swyddog datblygu pêl-rwyd yw gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych a Chymdeithas Bêl-rwyd Cymru i gyflwyno rhaglen pêl-rwyd ar draws y sir sy’n cynnwys:-
Addysg Hyfforddwyr Dechrau Hyfforddi Dyma’r lefel sylfaenol o gymhwyster hyfforddi, sy’n rhoi gwybodaeth amlinellol am bêl-rwyd. Gall deiliaid gynorthwyo hyfforddwr cymwys. Lefel 1 UKCC Mae Lefel Un UKCC yn gwrs 3 diwrnod sy’n cynnwys nifer o fodiwlau damcaniaethol ac ymarferol sy’n cyflenwi hyfforddwyr â’r wybodaeth a’r sgiliau i gynorthwyo ar lefel clwb. Lefel 2 UKCC Mae Lefel Dau UKCC a modiwlau i gynorthwyo’r hyfforddwyr presennol i drosglwyddo eu gwobrwyon i’r fframwaith UKCC i fod i’w lansio ym mis Ionawr 2007. Mae Pêl-rwyd Cymru yn gweithio’n agos ochr yn ochr â Lloegr a’r Alban i sicrhau bod y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno’n bydlon.
Addysg Dyfarnwyr Gwobr Ddyfarnu Q Anelir y cwrs hwn at ddechreuwyr. Mae’r cwrs yn datblygu theori a sgiliau dyfarnu ymarferol. Cwrs Dyfarnu Lefel 1 Dyma’r lefel safonol o gymhwyster dyfarnu ar gyfer pob dyfarnwr clwb sy’n gweithio ar lefel leol. Mae’r wobr yn rhoi golwg cyffredinol ar bob agwedd ar bêl-rwyd, a chyflwyniad sylfaenol i dechnegau dyfarnu. Gall ymgeiswyr weithio tuag at eu Gwobr C wedyn. Cwrs Dyfarnu Lefel 2 Dyma’r lefel uwch o gymhwyster dyfarnu, ac mae’n addas ar gyfer dyfarnwyr sy’n gweithio gyda phob safon o chwaraewr, o ddechreuwyr i lefel elît. Gall ymgeiswyr weithio tuag at eu Gwobr B wedyn.
Clybiau Merched Prestatyn Mae’r tîm yma yn chwarae yn Adran 3 Cynghrair Pêl-rwyd Sir y Fflint, ac mae’n agored i rai dros 16 o bob gallu. Cysylltwch â’r Swyddog Datblygu Pêl-rwyd am fwy o wybodaeth. Clwb Pêl-rwyd Merched Dinbych Clwb i rai sy’n 15 oed a throsodd. Maen nhw’n cwrdd bob nos Fercher o 8-9.30pm yng Nghanolfan Hamdden Dinbych. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â denbighnetball@aol.com os gwelwch yn dda Clwb Pêl-rwyd Merched Rhuthun - www.ruthinnetballclub.com Mae gan y wefan wybodaeth am y clwb, yn cynnwys gemau a chanlyniadau, yn ogystal â gwahoddiad agored i eraill hyfforddi â’r garfan, sy’n chwarae yng Nghynghrair Pêl-rwyd Forresters Sir y Fflint (Adran 4). Canolfan Hamdden Y Rhyl Sesiynau pêl-rwyd i Ferched o bob gallu bob nos Iau 7-8pm yng Nghanolfan Hamdden Y Rhyl. Croeso i Bawb.
Pêl-rwyd Iau Caiff sesiynau pêl-rwyd eu cynnal yn wythnosol mewn Canolfannau Hamdden ar draws Sir Ddinbych i rai dan 12. Sesiynau hwyl ydynt ac nid oes angen archebu, dim ond dod draw a mwynhau. Gweler y poster am fwy o fanylion….
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||