
Croeso i wefan chwaraeon Sir Ddinbych!
Ein gweledigaeth yw i ddathlu Hamdden yn Sir Ddinbych trwy ddarparu gwasanaeth Chwaraeon a Difyrrwch gynhwysol sy’n creu cymunedau mwy iach a llewyrchus a gwasanaeth sy’n chwarae rhan bwysig i gyfoethogi bywydau pobl. Ein nod yw darparu amrediad eang o brofiadau sy’n annog cyfranogi, rhyngweithio a chyrhaeddiad personol.
Mae Hamdden wedi ymroddi yn gyfangwbl i gynyddu lefelau gweithgareddau corfforol trwy ymgynghori a chysylltu yn lleol â’r cymunedau a thrwy weithio gydag a thrwy eraill i greu amgylchedd sy’n cefnogi a darparu cyfle ar gyfer gweithgareddau iach a diogel.
Dros y dair blynedd nesaf, bydd Hamdden yn Sir Ddinbych yn canolbwyntio ar dargedau allweddol mesuradwy sy’n cyfrannu at gyflawni targedau strategol cenedlaethol sydd wedi’w gosod o fewn agenda Dringo’n Uwch, tra’n ystyried o hyd ein gwerthoedd craidd, sef annog, cynyddu cyrhaeddiad, gwella iechyd, adeiladu perthynas ac hyder, ysgogi creadigrwydd ac annog cyfranogiad.
Mae hwn yn gyfle i chi weld beth sydd ar gael o ran chwaraeon, cyfleoedd hamdden a difyrrwch yn Sir Ddinbych. Mae gennyn ni dîm o staff proffesiynol ymroddedig yn cyd-weithio i ddarparu y gwasanaethau chwaraeon ac hamdden gorau posib ac rydw i’n eich annog i ganfod beth sy’n mynd ymlaen gan fwrw golwg dros bob rhan o’r wefan. Rydw i’n gobeithio y byddwch chi’n gallu canfod gweithgaredd sydd at eich dant a byddwch chi’n gallu cymryd rhan mewn rhyw ffordd. Rydw i’n gobeithio y byddwch chi’n mwynhau’r wefan ac os oes gennych gwestiynau neu adborth, cwblhewch y ffurflen ymholiad gyffredinol gan glicio ar ‘cysylltwch â ni’.
Jamie Groves
Pennaeth Gwasanaethau Hamdden
|