|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ym mis Ionawr 2005 sefydlodd Llywodraeth Cynulliad Cymru weledigaeth 20 mlynedd ar gyfer chwaraeon a gweithgaredd corfforol - ‘Dringo’n Uwch’. Mae’r strategaeth yn cydnabod y gall chwaraeon a gweithgaredd corfforol wneud cyfraniad hanfodol ar draws llawer o flaenoriaethau’r Llywodraeth, megis addysg a dysgu gydol oes, yr economi, diwylliant, adfywio cymdeithasol, yr amgylchedd ac, yn bwysicaf oll, gwella iechyd y genedl. Mae Dringo’n Uwch yn rhan o ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i Her Iechyd Cymru, sy’n rhoi’r ffocws cenedlaethol i wella iechyd a lles, yn cynnwys gwneud gweithgaredd corfforol yn rhan o fywyd pob dydd. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn partneriaeth â Gwasanaethau Hamdden Cyngor Sir Ddinbych wedi gwahodd prosiectau a fydd yn dangos yn glir gyfraniad arwyddocaol at fesurau canlyniadau allweddol Dringo’n Uwch, sef mwy o bobl yn cyflawni’r targed gweithgaredd dwysedd cymedrol 5 gwaith yr wythnos. Rhaid i’r prosiectau fod at ddefnydd y gymuned ac felly rhaid iddynt gynnwys mwy o ddefnydd gweithgaredd corfforol gan oedolion ar draws ystod oedran eang a denu mwy o ddefnydd gan ddynion a merched yn ogystal â darparu cyfleoedd ar gyfer pobl leiafrifol ethnig a phobl anabl. Derbyniwyd 32 o brosiectau unigol gan fudiadau cymunedol a gynigiodd amrywiaeth eang o weithgareddau megis Llwybrau Lluniaidd, Neuaddau Tref Cymunedol Gweithgar, Chwaraeon Dŵr a gweithgareddau Dringo. Mae pob un o’r 32 cais wedi’u derbyn ar lefel yr Awdurdod Lleol a bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan Gyngor Chwaraeon Cymru ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru erbyn diwedd mis Tachwedd.Grant Cist Gymunedol Sir Ddinbych HYD AT £1000 AR GAEL AR GYFER CLYBIAU A MUDIADAU CHWARAEON GWIRFODDOL
Os ydi’r ateb i unrhyw un o’r uchod yn gadarnhaol fe allech chi fod yn gymwys ar gyfer Grant Cist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru. Pwy all wneud cais? Gall unrhyw glwb neu fudiad wneud cais ar yr amod fod ganddynt Gyfrif banc/ cymdeithas adeiladu yn enw’r mudiad a chyfansoddiad/set o reolau. Pryd i wneud cais? Bydd ceisiadau’n cael eu hystyried gan eich pwyllgor lleol trwy gydol y flwyddyn. Bydd y pwyllgor yn cwrdd rhwng pedair a chwe gwaith y flwyddyn. Fel arfer dylid cyflwyno ffurflenni cais o leiaf dri mis cyn cychwyniad arfaethedig y prosiect. Sut i wneud cais? Mae ffurflenni cais ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar-lein ar www.sports-council-wales.co.uk neu gofynnwch am gopi caled gan: Adran Gwasanaethau Hamdden, Cyngor Sir Ddinbych, Sue Boardman, Swyddog Grantiau’r Ardal Leol, Uned A, Y Pentref, Rhodfa’r Gorllewin, Y Rhyl. LL18 1HZ Ffôn: 01824 712716Grantiau Ychwanegol Cyngor Chwaraeon Cymru. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â www.sports-council-wales.co.uk Mae’r rhain yn cynnwys: Cynllun Mân Grantiau, Coach Cymru, Elite Cymru, Datblygu Cyfleusterau, Cymorth Datblygu Teithiau Tramor, Diogelwch Chwaraeon a Sportsmatch Cymru.Cynllun Grantiau Athletwyr Talentog Y Rhyl A ydych chi’n athletwr talentog/athletwraig dalentog sydd yn cystadlu neu’n hyfforddi ar lefel carfan y Sir, neu lefel canolfan ddatblygu leol ac uwch, neu wedi cael cynnig y cyfle i wneud hynny ……, Yn byw yn Y Rhyl…yn aelod o glwb sydd wedi’i leoli yn Y Rhyl neu’n mynychu ysgol yn Y Rhyl? Yna gallai hyn fod yn gyfle i chi wneud cais i gynllun Grantiau Athletwyr Talentog Y Rhyl! Gall yr unigolyn wneud cais am grant neu gall oedolyn mewn safle o awdurdod (h.y. rhiant, gwarcheidwad, athro/athrawes, hyfforddwr/aig) wneud hynny ar ran yr unigolyn. Bydd ceisiadau’n cael eu hystyried gan athletwyr unigol sydd wedi cyrraedd, neu sydd â’r potensial i gyrraedd Lefel Sirol, lefel Ranbarthol neu Genedlaethol o fewn eu camp benodol.Lefel y Cymorth Grant: Lefel Sirol - £0-£150 Cysylltwch â Chymdeithas Chwaraeon Sir Ddinbych, Uned Datblygu Chwaraeon, Uned A, Y Pentref, Rhodfa’r Gorllewin, Y Rhyl, Sir Ddinbych. Ll18 1 HZ os gwelwch yn dda.
Cerdyn Aur Gogledd Cymru Mae cynllun Cerdyn Aur Gogledd Cymru yn darparu cymorth i athletwyr talentog yng Ngogledd Cymru sy’n cynrychioli Cymru ar hyn o bryd. Mae’r cynllun yn cynnig yr hawl i ymgeiswyr llwyddiannus ddefnyddio cyfleusterau hamdden yr awdurdod lleol at ddibenion hyfforddi gyda Sir Ddinbych, Ynys Môn, Conwy, Sir y Fflint, Wrecsam a Gwynedd. Bydd y rheini sy’n byw yn y 6 awdurdod lleol uchod yn gymwys i ymgeisio a rhaid iddynt fod yn aelod cyfredol o dîm neu garfan genedlaethol corff llywodraethol cenedlaethol. Rhaid i ymgeiswyr nad oes gan eu chwaraeon ornestau rhyngwladol ac/neu sy’n cystadlu fel unigolyn, fod wedi gorffen yn nhri safle cyntaf Pencampwriaeth Genedlaethol a drefnwyd gan gorff llywodraethol cenedlaethol y gamp, o fewn y 12 mis diwethaf. Bydd ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn cerdyn aelodaeth a bydd ganddo ef neu hi hawl i ddefnyddio ystafelloedd ffitrwydd, pyllau nofio, sboncen, badminton, tennis, mur dringo, trac athletau, ystafell bwysau, hyfforddiant cylchol/dosbarthiadau ffitrwydd, tennis bwrdd a chlybiau golff yn amodol ar y telerau ar eich cerdyn. Fe all cyfleusterau eraill fod ar gael drwy drafodaeth gyda rheolwyr y Canolfannau Hamdden. I wneud cais, cysylltwch â’r Uned Datblygu Chwaraeon yn y cyfeiriad uchod os gwelwch yn dda.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||