English Cyngor Sir Ddinbych Her Iechyd Sir Ddinbych
Hafan
Amdanom Ni
Digwyddiadau a Newyddion
Chwaraeon
8Heini
Chwarae
Gweithgareddau Iachus
Canolfannau Hamdden
Parciau
Grantiau a Chyllid
Cysylltwch a Ni
Cysylltau
Football Development

 


Prif ffocws y datblygiad pêl droed yw cael mwy o bobl yn cymryd rhan a chodi aelodaeth o'r clwb iau. Mae hyn yn codi ymwybyddiaeth o safonau pêl droed mewn ysgolion ac yn gwella cyswllt clybiau cymunedol trwy'r cynllun Achredu Ysgolion a datblygu strwythur clybiau iau lleol trwy'r cynllun Achredu Clybiau. 

Mae gennym raglen ddatblygu pêl droed merched a genethod a rhaglen hyfforddiant i ysgolion a chlybiau iau i gael mwy yn cymryd rhan yn y gêm rhwng 6 a 16 oed. Crëwyd rhaglen addysg lawn i helpu hyfforddwyr gael gwobrau hyfforddiant pêl droed.

Swyddog Datblygu Pêl-droed Swyddog Datblygu Pêl-droed Merched a Genethod
Ffôn: 01824 712709  Ffôn: 01824 712710
Ffacs: 01824 712701 Ffacs: 01824 712701

Amcanion

Amcanion cyffredinol Adran Bêl-droed y Sir yw:

  1. cael mwy i gymryd rhan mewn Pêl-droed ymhlith Bechgyn a Genethod o Oedran Ysgol.
  2. codi safon chwarae er mwyn cefnogi llwyddiant timau Cenedlaethol yn y dyfodol.


Cefndir

Mae’r swyddi’n fenter ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ddinbych ac Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW) – Adran Dechnegol.
Mae gan y Sir dîm yn Uwch Gynghrair Cymru, Clwb Pêl-droed Y Rhyl ac Academi Bêl-droed i chwaraewyr Talentog, yn fechgyn ac yn enethod, sy’n chwarae’n erbyn academïau eraill ar draws Cymru

Gyda hanes Pêl-droed o fewn yr ardal mae llawer iawn o weithgaredd strwythuredig yn digwydd yn yr ardal ar hyn o bryd ac felly rôl y Swyddog datblygu yw sicrhau bod y gweithgareddau presennol a gweithgareddau yn y dyfodol yn cyd-fynd â’r strategaeth Genedlaethol ar gyfer Pêl-droed yng Nghymru.

Mae’r Rhaglen Genedlaethol yn cynnwys 5 prif faes:

1. Pêl-droed Ardal

Amcan hyn yw cael mwy i gymryd rhan mewn pêl-droed ymhlith pob plentyn o oedran ysgol.

Y partneriaid allweddol o fewn yr ardal yw rhaglenni Canolfan Hwyl ac wythnos Hwyl, Cyngor Sir Ddinbych (rhaglen achredu ysgolion babanod/cynradd), Campau’r Ddraig, ysgolion lleol, Clybiau Cymunedol a Chanolfannau Hamdden.


2. Pêl-droed Merched a Genethod

Mae gan Sir Ddinbych ei Swyddog Datblygu Pêl-droed Merched a Genethod ei hun. Yr amcan yw ychwanegu at y cyfleoedd i ferched a genethod yn benodol gymryd rhan mewn Pêl-droed a’u cyplysu â’r strwythurau presennol.

Gyda chymorth rhaglen Achredu Ysgolion a Chlybiau Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Champau’r Ddraig.  Ar hyn o bryd mae gan Sir Ddinbych 5 clwb yn chwarae o fewn Cynghrair Genethod Gogledd Cymru bob dydd Sadwrn.


3. Rhaglen Addysg Hyfforddwyr

Yr amcan yw recriwtio, hyfforddi a datblygu hyfforddwyr i gefnogi datblygiad chwaraewyr.

Yn lleol mae’r holl gyrsiau lefel sylfaen ar gael, gyda chyfarwyddyd sut i gael at gyrsiau pellach o drwydded C i ddiploma Proffesiynol.


4. Rhaglen Datblygu Chwaraewyr

Yr amcan yw canfod a chefnogi chwaraewyr talentog i ddatblygu eu potensial.

Oherwydd nifer y cyrff gyda budd yn yr ardal yma mae Fforwm Datblygu Chwaraewyr ar gyfer yr ardal wedi’i sefydlu i sicrhau bod lles gorau’r chwaraewyr yn cael ei gwrdd. Cynrychiolwyr o Gymdeithas Bêl-droed Arfordir Gogledd Cymru (NWCFA), Cynghrair Bêl-droed Ieuenctid Y Rhyl a’r Cylch (RDYFL) Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Cyngor Sir Ddinbych (CSDd), Cymdeithas Bêl-droed Ysgolion Cymru (WSFA) Cynradd ac Uwchradd, Clwb Pêl-droed Y Rhyl.


5. Datblygu Clybiau Iau

Yr amcan yw codi’r ddarpariaeth ar gyfer chwaraewyr o fewn eu Clybiau Iau drwy feini prawf sydd wedi’u nodi yn y Rhaglen Achredu Clybiau. Mae hyn yn golygu gweithio’n agos â RDYFL a chlybiau dynodedig.


Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Rwyf yn derbyn nifer o ymholiadau pob dydd ynghylch Pêl-droed. Isod mae ffyrdd y byddwch o bosib yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth y gofynnir amdani’n rheolaidd:

Sut allaf i ymuno â chlwb?

I gael gwybodaeth am y Gynghrair Ieuenctid leol cysylltwch â Chynghrair Bêl-droed Ieuenctid Y Rhyl a’r Cylch.

Ble gall fy mhlentyn fynychu canolfannau pêl-droed gwyliau a phêl-droed hwyl?

Cysylltwch â’r Swyddog Datblygu Pêl-droed ar 01824 712700

Sut mae dod yn hyfforddwr?

I gael gwybodaeth am gyrsiau Addysg Hyfforddwyr lleol a chenedlaethol cysylltwch ag  Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW).

Mae modd ichi gael at fwy o wybodaeth am feysydd y rhaglen drwy wefan FAW Trust.

 

Back to Sport Development Main Page

Nofio Am Ddim Mentro Allan Campau'r Ddraig 5x60 Activities North Wales Outdoor Challenge