
Cyflwyniad
Mae Campau’r Ddraig yn cynnig cyfleoedd chwaraeon hwyliog a phriodol i blant oedran ysgol gynradd.
Mae Campau’r Ddraig yn fenter gan Gyngor Chwaraeon Cymru sy’n cael ei hariannu gan y loteri. Fe’i datblygwyd mewn partneriaeth â chyrff llywodraethol cenedlaethol, Cymdeithas Brydeinig Ymgynghorwyr a Darlithwyr mewn Addysg Gorfforol (BAALPE) Cymru, yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid ac awdurdodau lleol.
Mae Campau’r Ddraig yn cynyddu cyfranogiad mewn partneriaeth â chymunedau a gwirfoddolwyr.
Cyngor Chwaraeon Cymru
Cyngor Chwaraeon Cymru yw’r corff cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon a hamdden yng Nghymru. Prif nodau’r cyngor yw:
- Annog mwy o gymryd rhan mewn chwaraeon o ran niferoedd y bobl ac o ran amlder eu gweithgaredd.
- Codi safonau perfformiad a rhagoriaeth mewn chwaraeon.
- Gwella darpariaeth cyfleusterau chwaraeon.
- Darparu cyngor technegol a dealltwriaeth gyffredinol ynghylch chwaraeon a hamdden.
Y Cynllun
Mae cynllun Campau’r Ddraig yn bwriadu ehangu diddordebau chwaraeon plant sydd eisoes yn cymryd rhan mewn chwaraeon penodol a chynnwys plant nad ydynt yn cael cyfleoedd o’r fath y tu allan i wersi Addysg Gorfforol ysgolion ar hyn o bryd. Bydd Campau’r Ddraig yn rhoi cyflwyniad i blant i hyfforddiant chwaraeon, datblygu sgiliau a chystadleuaeth briodol gan ddefnyddio fersiynau ar y gêm oedolion wedi’i haddasu i gwrdd â’u hanghenion a’u lefelau sgiliau.
Caiff CHWARAE TEG a gweithgareddau CYNHWYSOL eu hyrwyddo a’u hategu’n gyson drwy’r holl ddefnyddiau a phecynnau hyfforddi sy’n gysylltiedig â’r rhaglen. Uwchlaw popeth, dylai’r plant sy’n cymryd rhan gael HWYL.
Nodau Campau’r Ddraig:
- Cyflwyno plant 7-11 mlwydd oed i amrywiaeth ddifyr a threfnus o chwaraeon.
- Rhoi iddynt gyfleoedd sydd wedi’u dynodi’n glir i fwydo i mewn i ac i symud ymlaen drwy raglenni datblygu chwaraeon mewn clybiau ac yn y gymuned.
- Gweithredu rhaglenni plant-ganolog ar draws amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon sy’n cael eu cyflwyno drwy glybiau y tu allan i’r ysgol.
- Recriwtio rhieni, athrawon ac eraill i arwain chwaraeon a’u cyflenwi â llwybrau at hyfforddi, dyfarnu neu weinyddu.
- Cefnogi clybiau chwaraeon wrth ddatblygu adrannau iau sy’n addas i blant 7-11 oed a datblygu cysylltiadau rhwng clybiau ac ysgolion drwy weithgareddau ar ôl ysgol.
Amcanion
- Sefydlu clybiau Campau’r Ddraig mewn ysgolion cynradd a chlybiau chwaraeon.
- Recriwtio a hyfforddi trefnwyr, arweinyddion a hyfforddwyr gwirfoddol Campau’r Ddraig; yn arbennig athrawon a rhieni.
- Gwneud chwaraeon yn HWYL i BOB plentyn.
Chwaraeon y Canolbwyntir Arnynt
Mae’r wyth gamp ganlynol i’w cynnwys yng Nghampau’r Ddraig: ATHLETAU, CRICED, PÊL-DROED, HOCI, PÊL-RWYD, RYGBI, GOLFF a THENNIS.
Mae’r rhain wedi’u dewis yn gyntaf fel chwaraeon a fydd yn gyfarwydd i wirfoddolwyr ac yn helpu plant i ddatblygu’r sgiliau symud sylfaenol (megis symudiad a chydsymud) sydd eu hangen ar gyfer pob chwaraeon. Gellir eu cyflwyno’n ddiogel yn hawdd, ac mae mynediad da at offer a chyfleusterau.
Mae Campau’r Ddraig:
- wedi’u haddasu i fod yn addas ar gyfer oedran, maint, gallu, lefel sgiliau a phrofiad y chwaraewr.
- yn defnyddio rheolau symlach, offer a mannau chwarae llai, ynghyd ag ymarfer a hyfforddi hwyliog.
- yn paratoi chwaraewyr ar gyfer y gêm oedolion.
- yn debyg i’r gamp y mae wedi’i seilio arni.
- yn ddiogel ond yn dal yn cynnig her.
Cyflwyno Campau’r Ddraig gan ysgolion a’r gymuned
Mae Campau’r Ddraig yn hawdd i wirfoddolwyr eu cyflwyno. Mae Cydlynwyr Campau’r Ddraig yn darparu cyngor a hyfforddiant bob yn gam i helpu ysgolion, clybiau chwaraeon a gwirfoddolwyr i gyflwyno Campau’r Ddraig. Cynigir yr help yma i ysgolion a chlybiau drwy raglen dreigl, sy’n cael ei chytuno mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ymgynghorwyr Addysg Gorfforol, cyrff llywodraethol cenedlaethol chwaraeon, ysgolion a darparwyr chwaraeon lleol eraill. Gall Campau’r Ddraig gael eu cyflwyno hefyd gan ganolfannau hamdden, grwpiau ieuenctid, mudiadau gwirfoddol a mudiadau mewn ffurfwisg.
Gwirfoddolwyr
Mae gwirfoddolwyr presennol Campau’r Ddraig wedi gwneud sylwadau ar y mwynhad a’r boddhad a gânt o weld plant yn dysgu sgiliau newydd ac yn cael hwyl. Mae llawer o’r gwirfoddolwyr wedi dod yn hyfforddwyr cymwysedig hefyd ac yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at eu clybiau cymunedol.
Bydd cynyddu nifer y gwirfoddolwyr yng Nghampau’r Ddraig yn foddion i fwy o blant gymryd rhan yng nghlybiau Campau’r Ddraig. Bydd hefyd yn foddion i rieni, athrawon, myfyrwyr a gwirfoddolwyr eraill gael hyfforddiant ac i wneud cyfraniad gwerthfawr at chwaraeon.
Helpwyr Campau’r Ddraig
Mae gan rieni, teidiau a neiniau, myfyrwyr a gwirfoddolwyr eraill lawer i’w gynnig i blant drwy chwaraeon ac fe’u hanogir yn gryf i ddod yn gyfrannog yng Nghampau’r Ddraig. Gall Helpwyr Campau’r Ddraig weithio ochr yn ochr â Threfnydd Campau’r Ddraig cymwysedig, wedi iddynt fynychu Gweithdy Trefnwyr Campau’r Ddraig.
Pa gymwysterau sydd eu hangen arnoch i ddod yn Drefnydd Campau’r Ddraig?
Mae angen i’r rheini sy’n goruchwylio’r gweithgaredd fynychu Gweithdy Trefnwyr Campau’r Ddraig a bod yn berchen ar un o’r cymwysterau canlynol:
- Cymhwyster Gweithiwr Chwarae neu Weithiwr Ieuenctid cydnabyddedig.
- Gwobr Arweinydd Chwaraeon Cymunedol
- Gwobr arweinydd neu hyfforddwr corff llywodraethol cenedlaethol gyfredol
- Cymhwyster athro/athrawes
- Cymhwyster Arweinyddiaeth Geidiaid Cymru
- Daliwr Bathodyn Pren Cymdeithas y Sgowtiaid
Mae’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn mynnu bod trefnwyr dros 18 mlwydd oed os ydynt i gymryd unig gyfrifoldeb am sesiwn Campau’r Ddraig.
Mae rhestr o’r gwobrwyon arweinyddion a hyfforddwyr sylfaenol a fynnir ar gael gan eich Cydlynydd Campau’r Ddraig lleol neu’r corff llywodraethol cenedlaethol.
Gweithdai Trefnwyr Campau’r Ddraig
Mae’r gweithdai’n cyflwyno pobl i ddeunyddiau adnoddau Campau’r Ddraig ac yn cynnig syniadau gwych ar addasu ac arwain gweithgareddau, fel bod yr holl bobl ifanc yn gallu llwyddo. Caiff yr holl weithdai eu harwain gan diwtoriaid profiadol ac maen nhw’n golygu llawer o weithgareddau a gemau ymarferol Campau’r Ddraig.
Bagiau Offer
Drwy’r Cydlynydd Campau’r Ddraig lleol, bydd Clybiau Campau’r Ddraig yn gallu cael gafael ar:
Cardiau adnoddau a deunyddiau atodol o ansawdd, sy’n cynnig gweithgareddau hawdd i’w defnyddio, cynyddol a phriodol cysylltiedig i bobl ifanc. Mae’r cardiau adnoddau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Mae’r bagiau offer canlynol ar gael ar hyn o bryd:
- Bagiau offer Athletau
- Bagiau offer Criced
- Bagiau offer Pêl-droed
- Bagiau offer Hoci
- Bagiau offer Pêl-rwyd
- Bagiau offer Rygbi
- Bagiau offer Golff
- Bagiau offer Tennis
- Gemau goresgyn (yn cynnwys detholiad o offer hoci, pêl-rwyd a rygbi)
Chwarae Teg
Mae a wnelo Campau’r Ddraig hefyd â helpu plant i ddysgu bod chwarae’n deg yn gwneud chwaraeon yn fwy o hwyl. Mae Campau’r Ddraig yn eu helpu i ddysgu i gydweithredu, i chwarae fel tîm, i barchu eraill ac i chwarae yn ôl y rheolau drwy gôd ymddygiad chwaraewyr. Mae hyn yn gwneud chwaraeon yn fwy pleserus i bawb.
Mae Campau’r Ddraig yn sicrhau hefyd fod gwirfoddolwyr, athrawon a rhieni yn cytuno i ddal at Gôd Ymddygiad Chwarae Teg. Mae Chwarae Teg yn fenter gan Gyngor Chwaraeon Cymru, sy’n anelu at:
- Hyrwyddo agweddau cadarnhaol a gwella safonau ymddygiad byd chwaraeon.
- Hyrwyddo codau ymddygiad cyson i chwaraewyr, hyfforddwyr, athrawon, rhieni, gwylwyr a dyfarnwyr.
Yswiriant
Mae hi’n bwysig fod pob mudiad ac unigolyn yn diogelu eu hunain rhag atebolrwydd am anaf neu ddifrod. Dylai mudiadau edrych eu hyswiriant cyn cynnal gweithgareddau Campau’r Ddraig. Mae Cyngor Chwaraeon Cymru yn argymell bod gan fudiadau sy’n cynnal Campau’r Ddraig yr yswiriant canlynol o leiaf:
- Atebolrwydd cyhoeddus
- Atebolrwydd cyflogwr
Cysylltwch â’ch Cydlynydd Campau’r Ddraig neu’r corff llywodraethol cenedlaethol os gwelwch yn dda os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch yswiriant ar gyfer eich Clybiau Campau’r Ddraig.

|