Croeso i Dudalen Datblygu Chwaraeon Anabledd Sir Ddinbych.
O ran chwaraeon anabledd mae’r sylw’n canolbwyntio ar hyn o bryd ar:
- Sefydlu Fforymau Chwaraeon Anabledd/Grwpiau Eiriolaeth yn Sir Ddinbych ar gyfer oedolion (21oed +), pobl ifanc (15-21oed) a phlant (hyd at 15 oed)
- Sefydlu clwb pêl-droed anabledd mewn partneriaeth â Chlwb Pêl-droed Prestatyn ac Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Bydd hwn gogyfer â phobl ifanc ac oedolion, gydag anableddau dysgu yn bennaf.
- Bydd sesiwn pêl-droed y ddraig i blant sydd â nam ar eu golwg yn yr ardal yn dechrau ar ddydd Gwener 10fed Tachwedd 4pm-5pm mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Cysylltwch â mi os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r clwb yma os gwelwch yn dda. (Ar y dechrau bydd y clwb yma yn agored i siblingiaid hefyd)
- Clwb Badminton i bobl gydag Anabledd Corfforol sy’n gallu cerdded a defnyddwyr cadeiriau olwyn, sydd i’w lansio’n fuan yng Nghanolfan Hamdden Y Rhyl, gyda hyfforddwyr â chymwysterau llawn ac aelodau carfan badminton Cymru.
- Sesiynau Blasu min nos a phenwythnos mewn amryw chwaraeon i oedolion gydag anableddau
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod i gymryd rhan yn unrhyw un o’r rhaglenni hyn naill ai fel gwirfoddolwr, hyfforddwr, neu aelod yna cysylltwch â Swyddog Chwaraeon Anabledd Sir Ddinbych ar disabilitysport@sportdenbighshire.co.uk neu drwy ddefnyddio’r Ffurflen Ymholiadau Cyffredinol os gwelwch yn dda.

|
|