English Cyngor Sir Ddinbych Her Iechyd Sir Ddinbych
Hafan
Amdanom Ni
Digwyddiadau a Newyddion
Chwaraeon
8Heini
Chwarae
Gweithgareddau Iachus
Canolfannau Hamdden
Parciau
Grantiau a Chyllid
Cysylltwch a Ni
Cysylltau
Addysg Hyfforddwyr

 

 

'Cyflenwi unigolion a grwpiau sy’n byw yn Sir Ddinbych â’r cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o gyrsiau addysg hyfforddwyr ac arweinyddiaeth ar amrywiol lefelau'

Mae hyfforddi’n rhan sylfaenol o Chwaraeon Cymunedol. Mae angen i unigolion sicrhau bod y cymwysterau a’r hyfforddiant iawn ganddynt er mwyn cael cyflwyno sesiynau hyfforddiant o safon yn effeithiol i bawb, ac yn enwedig i bobl ifanc.

Mae Datblygu Chwaraeon Sir Ddinbych yn cyflenwi hyfforddwyr lleol â’r cyfleoedd i gymryd rhan mewn amrywiaeth o gyrsiau addysg hyfforddwyr, penodol i gamp a chyffredinol, ar amrywiol lefelau.

Cliciwch ar y cyswllt Cyrsiau Addysg Hyfforddwyr i weld y rhaglen.

 

Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch ynghylch Addysg a Datblygiad Hyfforddwyr, llenwch ein Ffurflen ymholiadau cyffredinol os gwelwch yn dda.

Beth sy’n gwneud hyfforddwr chwaraeon cyfrifol?

Materion yn ymwneud â’r Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) ac Amddiffyn Plant

 

Beth sy’n gwneud hyfforddwr chwaraeon cyfrifol?

Mae Hyfforddiant Chwaraeon yn helpu datblygiad unigolion drwy wella eu perfformiad. Cyflawnir hyn drwy:

  • Ganfod a chwrdd ag anghenion unigolion
  • Gwella perfformiad drwy raglen raddedig o arfer diogel, dan arweiniad, perfformiad mesuredig a/neu gystadleuaeth
Creu amgylchedd ble mae unigolion yn cael eu hysgogi i gynnal cyfranogiad a gwella perfformiad

Cysylltau defnyddiol:

[sports coach UK]
[Coaching Wales]
[Cyngor Chwaraeon Cymru]

 

Pa egwyddorion moeseg ac arfer da ddylai Hyfforddwr Chwaraeon gydymffurfio â nhw wrth weithio gyda grwpiau neu unigolion?

Dyma rai o’r egwyddorion moeseg ac arfer da y dylai pob hyfforddwr chwaraeon sy’n gweithio gyda grwpiau neu unigolion gydymffurfio â nhw:

  • Rhaid i hyfforddwyr barchu hawliau, urddas a gwerth pob unigolyn a thrin pawb yn gydradd o fewn cyd-destun eu camp.
  • Rhaid i hyfforddwyr rhoi lles a diogelwch y perfformiwr uwchlaw datblygu perfformiad. Dylent ddilyn yr holl ganllawiau sydd wedi’u gosod gan y corff llywodraethol cenedlaethol ar gyfer y gamp honno a bod â’r yswiriant priodol.
  • Rhaid i hyfforddwyr ddatblygu perthynas weithio briodol â pherfformwyr (yn arbennig plant), wedi’i seilio ar ymddiriedaeth a pharch y naill at y llall.
  • Rhaid i hyfforddwyr beidio â dylanwadu’n ormodol er mwyn cael budd neu elw personol.
  • Dylai hyfforddwyr gydweithredu’n llawn ag arbenigwyr eraill (e.e. hyfforddwyr eraill, swyddogion, meddygon, ffisiotherapyddion) er lles gorau eu perfformiwr.
  • Dylai hyfforddwyr bob amser hyrwyddo agweddau cadarnhaol eu camp (e.e. chwarae’n deg) a byth esgusodi tor-rheolau neu ddefnydd sylweddau gwaharddedig.
  • Rhaid i hyfforddwyr ddangos safonau uchel o ran ymddygiad a golwg yn gyson.

 

A oes angen imi gael fy archwilio gan yr heddlu cyn hyfforddi pobl ifanc?

Oes. Mae hi’n gyfraith bod rhaid i unrhyw un sy’n gweithio â phlant ymgymryd â Chliriad Heddlu y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB - Criminal Records Bureau). Felly wrth fynd drwy gliriad rydych, fel hyfforddwr, yn cyfrannu at wella safonau yn y gweithle ac yn y gymdeithas yn gyffredinol.

Nodwch os gwelwch yn dda: Heb gliriad nid ydych yn gallu gweithio fel hyfforddwr i Gyngor Sir Ddinbych

A oes angen imi fod wedi mynychu cwrs amddiffyn plant cyn imi ddechrau hyfforddi?

Oes. Mae’r Gwasanaeth Datblygu Chwaraeon ond yn cyflogi hyfforddwyr sydd wedi mynychu cwrs Arfer Da ac Amddiffyn Plant Sports Coach UK neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny.

Os ydych chi’n hyfforddwr sy’n hyfforddi mewn clwb lleol, rydym yn cynghori eich bod yn mynychu cwrs i’ch diweddaru ar yr wybodaeth amddiffyn plant gyfredol.

 
Paham y mae amddiffyn plant yn ystyriaeth mor fawr o ran hyfforddi?

Mae hi’n bwysig fod plant a rhieni’n ymwybodol fod hyfforddwyr yn gwybod y diweddaraf am faterion Amddiffyn Plant ac felly mae hi’n bwysig eu bod yn gwybod bod amgylchedd diogel i blant yn cael ei ddarparu. Mae hi’n hanfodol hefyd fod hyfforddwyr eu hunain yn ymwybodol o’r ystyriaethau i sicrhau nad ydynt yn gadael eu hunain yn agored i sefyllfaoedd anodd a’u bod yn gwybod am reolau a gwaharddiadau sut i weithio â phlant. Yr allwedd yw sicrhau diogelwch i bawb sy’n gysylltiedig â hyfforddi.


Sut allaf i ddod i wybod am yr ystyriaethau amddiffyn plant cyfredol?

Y peth gorau i’w wneud fyddai mynychu cwrs hyfforddiant Amddiffyn Plant. Mae Sports Coach UK yn cynnal gweithdy o’r enw `Arfer Da ac Amddiffyn Plant’. Mae’r cyrsiau hyn yn para 3 awr ac mae modd mynd arnynt drwy Datblygu Chwaraeon Sir Ddinbych.


Sut mae cael ffurflen cliriad y CRB?

Os ydych chi’n gweithio i Datblygu Chwaraeon byddwch yn cael un i’w llenwi gan y Swyddog Datblygu Chwaraeon yr ydych yn gweithio iddo neu iddi. Os nad ydych chi’n gweithio i Awdurdod Lleol ond eich bod yn teimlo bod angen ichi lenwi ffurflen fel hyfforddwr yn eich clwb, cysylltwch â Chorff Llywodraethol Cenedlaethol y Gamp os gwelwch yn dda.


Sut fyddaf i’n gwybod a ydwyf wedi fy nghlirio?

Byddwch yn derbyn tystysgrif drwy’r post yn amlygu’r gwiriad sydd wedi’i wneud. Bydd y Swyddog a gwblhaodd y gwiriad yn derbyn tystysgrif hefyd yn amlygu unrhyw euogfarnau troseddol cyfredol neu flaenorol.

Gwefannau defnyddiol CRB ac Amddiffyn Plant:

Y Gwasanaeth Datgelu
NSPCC
Uned Amddiffyn Plant mewn Chwaraeon


Sut allaf i elwa ar fynd ar gwrs hyfforddi pan wyf wedi bod yn gysylltiedig â’r gamp am flynyddoedd heb fynychu unrhyw gyrsiau?


Mae llawer o fanteision cymhwyso o fewn eich camp megis:

  • Gwybodaeth am sut i gynllunio sesiwn hyfforddi diogel a difyr
  • Ennill syniadau a thechnegau newydd a diweddar
  • Dod i wybod am unrhyw ddeddfwriaeth newydd yn ymwneud â’ch camp
  • Sicrwydd yswiriant gan y corff llywodraethol (yn benodol i’r corff llywodraethol – holwch os gwelwch yn dda)


Pa gwrs hyfforddi fyddai’n fwyaf priodol i mi?

Mae hyn yn dibynnu ar eich lefel o brofiad mewn gwirionedd. Os nad ydych erioed wedi hyfforddi o’r blaen, y cwrs mwyaf priodol fyddai CSLA. Os oes diddordeb gennych mewn camp benodol, mae holl Gyrff Llywodraethol Cenedlaethol (NGB) Chwaraeon yn cynnig amrywiol lefelau o wobrwyon hyfforddi sy’n addas i wahanol lefelau o hyfforddwyr. Maen nhw’n amrywio o wobrwyon lefel 1(yr hyfforddwr newydd) i lefel 4 (yr hyfforddwr profiadol).


Rwyf yn dymuno dod yn hyfforddwr chwaraeon. Sut mae mynd o’i chwmpas hi?

Y llwybr naturiol i rywun sydd â diddordeb mewn dod yn hyfforddwr chwaraeon yw gwneud gwobr arweinyddiaeth sylfaenol, megis cwrs CSLA, yn gyntaf. Mae’r cwrs hwn yn berffaith ar gyfer cyflwyno sgiliau arweinyddiaeth, ac mae’n canolbwyntio i raddau helaeth iawn ar drefnu a chyfathrebu, sy’n hanfodol i unrhyw un sy’n dymuno dod yn hyfforddwr chwaraeon.

Y lefel nesaf fyddai mynychu cwrs gwobr lefel 1 penodol i gamp neu gwrs arweinyddion, bydd gan y Cyrff Llywodraethol Cenedlaethol (NGB) fanylion ynghylch y cyrsiau hyn.

I ddod yn hyfforddwr â chymwysterau llawn, byddai angen ichi wneud cwrs lefel 2 penodol i gamp, eto byddai gan yr NGB fanylion am y gwobrwyon hyn. Gall Datblygu Chwaraeon eich helpu chi i ddod yn hyfforddwr chwaraeon, ac mae’n darparu llawer o gyrsiau ichi symud ymlaen ar yr ysgol hyfforddi.

 

Back to Sport Development Main Page

 

Nofio Am Ddim Mentro Allan Campau'r Ddraig 5x60 Activities North Wales Outdoor Challenge