Mae’r rhaglen newydd hon yn canolbwyntio ar ddatblygu a gweithredu cynlluniau datblygu chwaraeon ar draws pob un o safleoedd Cronfa Loteri Fawr (BLF) y sir. Prif rôl Cydlynydd Addysg Gorfforol a Chwaraeon Cymunedol y BLF yw cynyddu nifer ac ansawdd y cyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol, yn enwedig ymhlith grwpiau sydd wedi’u heithrio’n gymdeithasol. Nid yw’r rhaglen hon yn ymdrin ag unrhyw un gamp yn unig ond yn hytrach amrywiaeth o chwaraeon a gweithgareddau corfforol sy’n amrywio o chwaraeon traddodiadol megis pêl-droed a hoci i weithgareddau mwy cyfoes, dawns a pilates er enghraifft. Nodwedd allweddol o’r rhaglen hon yw sefydlu rhwydweithiau rhwng ysgolion, clybiau chwaraeon, hyfforddwyr, cyrff llywodraethol a grwpiau cymunedol.
Mae cyllid cyfalaf wedi arwain at gyfleusterau newydd o’r math diweddaraf ar 6 safle defnydd deuol ar draws Sir Ddinbych. Mae’r prosiectau hyn yn cynnwys:
- Maes bob tywydd o safon ryngwladol yng Nghanolfan Hamdden Llanelwy
- Maes bob tywydd yng Nghanolfan Hamdden Llangollen
- Cyfleusterau newid newydd yng Nghanolfan Hamdden Rhuthun
- Llecyn chwaraeon amlddefnydd yn Ysgol Gynradd Eglwys Crist, Y Rhyl
- Adnewyddu campfa yng Nghanolfan Hamdden Prestatyn
- Adnewyddu Canolfan Hamdden Y Rhyl
Manylion y Cyswllt:
Gareth Hayes (Cydlynydd Addysg Gorfforol a Chwaraeon Cymunedol y BLF) 01824 712722

|