Mae’r adran yma’n rhoi amrywiaeth o wybodaeth am Dîm Datblygu Chwaraeon Sir Ddinbych a sut y mae’n gweithredu.
Ein Trefniadaeth
Bydd tîm Datblygu Chwaraeon Sir Ddinbych yn cymryd y cam cyntaf arweiniol, gan weithio gyda phartneriaid allweddol, i gyflawni'r ‘weledigaeth ar gyfer Chwaraeon' sydd gan y Sir a chynllun busnes y Gwasanaeth.
Mae ein Tîm Datblygu Chwaraeon yn ymfalchïo yn eu gwaith caled a’u harloesedd wrth gyflwyno 'bwydlen o gyfleoedd' i’r trigolion yn Sir Ddinbych. Eleni rydym wedi datblygu’r rhaglen ymhellach i gynnwys cynllun datblygu Dulliau Llawn Mynd Iachach o Fyw sy’n rhoi i drigolion Sir Ddinbych y cyfle o ddull iachach o fyw drwy weithgaredd corfforol. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau megis Cerdded i Ffitrwydd, Loncian i Ffitrwydd a Beicio i Ffitrwydd, sydd eisoes wedi cael effaith ysgubol yn y Sir.
Drwy ein nodau a’n hamcanion, mae’r tîm Datblygu Chwaraeon yn parhau i ddarparu ar gyfer eich holl anghenion chwaraeon dim bwys pa un a ydych yn ddechreuwr, yn athletwr dawnus, yn ddarpar hyfforddwr neu’n wirfoddolwr. Ein nod yw ymdrechu i wella’n barhaus ac rydym yn croesawu unrhyw awgrymiadau, syniadau neu sylwadau ar lefel y gwasanaeth a gynigiwn.
Ein Gweledigaeth
- Mae’r Tîm Datblygu Chwaraeon yn arwain y ffordd gyda phartneriaid allweddol i gyflawni’r ‘weledigaeth ar gyfer chwaraeon’ sydd gan y sir.
- Mae’r tîm yn cyflwyno ‘bwydlen o gyfleoedd’ i bobl Sir Ddinbych, yn cynnwys datblygu chwaraeon o fewn ysgolion, clybiau ac amrywiol fudiadau.
- Athroniaeth y Tîm Datblygu Chwaraeon yw gofalu bod plant a phobl ifanc ac oedolion i gyd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon cynaladwy o ansawdd uchel.
Ein Nodau
- Datblygu Chwaraeon – cael mwy i gyfranogi drwy fentrau chwaraeon ysgolion (yn yr ysgol ac ar ôl ysgol), hyfforddiant o ansawdd, cefnogi a datblygu chwaraewyr, datblygu clybiau, perfformiad a rhagoriaeth, datblygu a marchnata cyfleusterau.
- Datblygu Chwaraeon Cymunedol – defnyddio chwaraeon fel cyfrwng i wella dulliau iachach o fyw, cynhwysiad cymdeithasol, addysg a dysgu gydol oes, datblygu amgylcheddol, adfywio economaidd a diogelwch cymunedol.
- Addysg a Hyfforddiant – addysg hyfforddwyr, datblygu hyfforddwyr a gwirfoddolwyr, system cefnogi mentora, rhaglen recriwtio a chadw gwirfoddolwyr.
|
|