![]() |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Mae llwyddiant y chwe phrosiect peilot ledled Cymru wedi arwain yn awr at gyflwyno’r swydd ym mhob sir drwy Gymru i gyd, dan faner Swyddog Datblygu Chwaraeon 5x60. Mae teitl y swydd yn dangos y pwyslais i blant fod yn cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol 5 gwaith yr wythnos am o leiaf 60 munud. Mae’r swydd yn amcanu at annog datblygiad cysylltiadau, strwythurau a rhwydweithiau rhwng ysgolion, clybiau chwaraeon, hyfforddwyr, cymunedau a chyrff llywodraethol chwaraeon er mwyn gwella’r cyfleoedd ar gyfer hamdden llawn mynd a chyfranogiad ar bob lefel. Mae’r rhaglen 5x60 yn amcanu at archwilio ffyrdd, drwy ysgolion, o greu amrywiaeth ehangach o chwaraeon a gweithgaredd corfforol yn ystod amser allgyrsiol, yn cynnwys brecwast ac amser cinio, ond yn arbennig nosweithiau’r wythnos a phenwythnosau, i bob plentyn ni waeth be fo’u gallu. Mae’r cynllun yn amcanu’n arbennig at dargedu cyfleoedd i blant nad ydynt yn cymryd rhan ar hyn o bryd a cheisio mynd i’r afael â rhai o’r ffactorau sy’n annog rhai ifanc llai galluog i beidio â chymryd rhan.Y Lansiad Mae Cynulliad Cymru a Chyngor Chwaraeon Cymru wedi lansio rhaglen £7.6m i annog mwy o blant ysgol uwchradd yn y wlad i ddod yn ffit a chadw’n ffit. Dywedodd y Gweinidog Chwaraeon Alan Pugh, a lansiodd y rhaglen yng Nghanolfan Hamdden Arbertyleri ym Mlaenau Gwent: “Os cewch chi’r chwilen ymarfer pan fyddwch chi’n ifanc, bydd gyda chi am eich oes. Erbyn 2025 ein dymuniad yw i bron bob un person ifanc yng Nghymru fod yn gwneud 5x60 yn wythnosol. Mae cyflwyno’r cynllun mewn ysgolion uwchradd yn gam mawr ar hyd y llwybr hwn.” Mae’r prosiect yn dilyn ymlaen o fenter Campau’r Ddraig Cyngor Chwaraeon Cymru – a lansiwyd yn 2004 i gael mwy o blant ysgolion cynradd i wneud chwaraeon – ac mae eisoes wedi’i ragbrofi mewn wyth ysgol.Bydd y gweithgareddau a ddarperir drwy’r rhaglen yn ddibynnol ar y cyfleusterau sydd ar gael yn yr ardal leol, ond bydd yn rhoi lle amlwg i weithgareddau megis aerobeg a dawns, yn ogystal ag ymestyn gweithgareddau megis criced a phêl-rwyd. Mae yna 28 o ysgolion yn cynnal y fenter ar hyn o bryd, ond disgwylir y bydd staff 5x60 a hyfforddwyd yn llawn wedi’u cyflogi ym mhob ysgol uwchradd yng Nghymru erbyn 2009.
Ffotograff: Roedd cystadleuwyr Big Brother, Glyn Wise ac Imogen Thomas yn lansiad 5x60 Rhesymeg
Egwyddorion
Y Targed
Gweithgareddau
Mae rôl y Swyddog 5x60 yn cael ei chyllido gan Gyngor Chwaraeon Cymru a’i rhedeg ar y cyd â Chyngor Sir Ddinbych. Fy rôl i ydi gweithio gydag Ysgol Brynhyfryd Rhuthun ac Ysgol Uwchradd Y Rhyl i greu cyfleoedd allgyrsiol ychwanegol i blant gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol. O fewn y swydd mae gennyf sawl maes allweddol i fynd i’r afael â nhw, mae’r rhain yn cynnwys;
Y Nod – Mae’r rhaglen 5x60 yn amcanu at gynyddu a gwella cyfranogiad pobl ifanc mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol. Drwy ddenu pobl ifanc mewn gwahanol ffyrdd gall ddylanwadu hefyd ar eu hagwedd ehangach, eu hymddygiad, presenoldeb, cyrhaeddiad a chyflawniad. Gwirfoddolwyr - Er mwyn i’r rhaglen hon gael ei phennu’n llwyddiant, mae’n hanfodol ein bod yn pwyso a mesur ac yn newid y rhaglen yn gyson ble mae angen, ond efallai’n fwyaf pwysig rydym yn disgwyl i’r ysgol gymryd perchenogaeth ar y cynllun ac ymgysylltu’n agos â’r gymuned leol a’r ardal o gwmpas, i ddod o hyd i unigolion brwdfrydig, canolbwyntiedig, o’r un meddwl sy’n benderfynol o wneud gwahaniaeth yn nhermau chwaraeon i’w hardal leol. Efallai na fydd hyn ar ffurf hyfforddi a chyflwyno sesiynau penodol yn unig, ond ar ffurf cyflwyno adroddiadau am weithgareddau, gweithredu fel swyddog y wasg, dod o hyd i gyllid i glybiau a llawer agwedd arall… Os ydych yn teimlo yr hoffech ddod i gymryd rhan cysylltwch â’r Uned Datblygu Chwaraeon i gofrestru eich diddordeb.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||